BrynWILLIAMSWILLIAMS - BRYN (Bach). 1 Ionawr, 2015. Yn dawel yng nghwmni ei deulu, yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac o 7 Bro Heli, Pwllheli (gynt o 14 Awelfryn, Llithfaen) yn 69 mlwydd oed. Tad annwyl Iwan, Meirion a Sian, tad-yng-nghyfraith Haf, Emma a Gareth, a thaid caredig Awen, Ella, Cerys, Sion, Tomos a Non. Angladd fore Iau, 8 Ionawr, 2015. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am 11.00 o'r gloch. Dim blodau, os gwelwch yn dda, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdano tuag at Ward Cybi (Uned Gofal Dwys) Ysbyty Gwynedd. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates